Croeso i Hirdre Fawr
Safle carafanau a gwersylla teuluol a chyfeillgar ar gyrion pentref bychan Tudweiliog, ar arfordir gogleddol Pen Llŷn yng Ngogledd Cymru.
Mae’n cynnig lleoliad heddychlon a golygfaol ar gyfer carafanio a gwersylla, wedi’i wasgaru ar draws 4 prif gae gyda lleiniau eang a lawntiau agored. Mae’n addas i unigolion, cyplau a theuluoedd sy’n chwilio am safle sydd nid yn unig yn heddychlon, ond sydd â digon i’w gynnig i’w westeion gan gynnwys ei drac preifat ei hun i draeth Rhosgor a Llwybr Arfordir Llŷn
Cyfleusterau’r Parc
Mae Parc Carafanau a Gwersylla Hirdre Fawr yn safle taclus a deniadol ac mae’n darparu llawer o gyfleusterau i sicrhau bod eich arhosiad mor bleserus â phosibl.
Mae’r rhain yn cynnwys lleiniau carafanau, faniau gwersylla a lleiniau pebyll gyda lleiniau caled, cysylltiadau trydan, cyflenwad dŵr, cawodydd poeth, golchdy, cyfleuster newid clytiau, man golchi llestri mawr dan do, cyfleusterau toiled i bobl anabl, lle chwarae awyr agored, a wi-fi am ddim drwy’r Parc.
Atyniadau Lleol
Mae Hirdre Fawr mewn lleoliad delfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno crwydro Pen Llŷn ac Eryri gerllaw a gweld beth sydd ganddynt i’w gynnig.
Yn ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ dynodedig, mae Llŷn wedi’i bendithio â thirwedd sy’n cynnig morlin eithriadol o gildraethau, pentiroedd, traethau a baeau gyda chyfoeth o fywyd gwyllt.
Heddiw, maent i gyd wedi’u cysylltu gan Lwybr Arfordir Llŷn sy’n rhan o Lwybr Arfordir Cymru gyfan, y gellir ei gyrraedd yn uniongyrchol o’n safle.
Local Attractions

Gweithgareddau lleol a phethau i’w gwneud
Mae digon i’ch cadw chi a’r teulu’n ddiddan yn ystod eich arhosiad yn Hirdre Fawr. Mae gan Ben Llŷn fendith o rai diwrnodau allan gwych gyda digonedd o weithgareddau awyr agored yn ogystal â rhai dan do, i gyd yn agos i’n safle.
Boed yn ddiwrnod allan llawn hwyl, ymweliad ag un o’r amgueddfeydd a/neu safleoedd treftadaeth cyfagos, neu ddiwrnod allan ar y môr agored, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i rywbeth i’ch cadw chi a’r teulu cyfan yn brysur yn ystod eich arhosiad.
adborth gan rai o’n gwesteion a’n hymwelwyr diweddar
I ddarllen mwy o adolygiadau ac i ddarganfod y wybodaeth ddiweddaraf gan Hirdre Fawr, ewch i’n tudalen facebook…