Amdanom Ni
Hirdre Fawr yw’r lleoliad delfrydol i’r rhai sy’n dymuno ymweld â Phen Llŷn.
Mewn man canolog yn Nhudweiliog (ar arfordir gogleddol Llŷn), mae o fewn pellter byr i’r rhan fwyaf o brif atyniadau’r Penrhyn ac yn ddigon agos i’r rhai sy’n dymuno crwydro ychydig ymhellach i ffwrdd tuag at Eryri, Caernarfon a Phorthmadog.
Gyda golygfeydd godidog ar draws Môr Iwerddon a thuag at y bryniau a chefn gwlad, mae’r safle wedi ei leoli ger fferm laeth weithiol gyda stoc o 360 o wartheg godro.
Am y Fferm
Fferm odro weithiol yw Hirdre Fawr gyda 360 o wartheg godro yn crwydro’r caeau.
Mae’r fferm wedi bod yn y teulu ers tair cenhedlaeth gyda Robert a Annwen yn cymryd yr awenau o redeg y fferm yn 2008.
Gofynnir i westeion gymryd sylw o reolau iechyd a diogelwch ac arwyddion ar y fferm ac o’i hamgylch. Os bydd gan ein gwesteion ddiddordeb mewn cael gweld y ‘sgubor odro, anfonwch eich cais at Annwen neu Robert.
Mae’r fferm hefyd yn adnabyddus iawn yn yr ardal am eu tatws. Mae’r pridd cyfoethog sy’n draenio’n rhwydd ger yr arfordir yn darparu’r lleoliad perffaith i gynaeafu tatws wilja o safon uchel pan fyddant yn eu tymor.
Cofiwch ofyn i Annwen a Robert am fag i fynd adref gyda chi. Maen nhw ar gael i’w prynu mewn bagiau 1kg a 5kg ac maen nhw’n rhesymol iawn eu pris.
Wedi’i rannu ar draws 4 cae, mae’r safle’n cynnig dwy ardal wedi’u dynodi ar gyfer carafanau a faniau gwersylla, un ardal ar gyfer pebyll a’r llall lle mae carafanau a phebyll yn rhannu.
Mae lleiniau’r carafanau wedi’u lleoli mewn ardaloedd sy’n cael eu gwarchod gan goed a gwrychoedd. Mae’r prif safle gwersylla yn gae mawr gyda digon o le agored i blant (ac oedolion) chwarae gemau ac ar gyfer coginio tu allan ac ymgynnull.

Mae lleiniau’r carafanau wedi’u lleoli mewn ardaloedd sy’n cael eu gwarchod gan goed a gwrychoedd. Mae’r prif safle gwersylla yn gae mawr gyda digon o le agored i blant (ac oedolion) chwarae gemau ac ar gyfer coginio tu allan ac ymgynnull..
Traeth Rhosgor a Llwybr Arfordir Llŷn
Mae mynediad preifat o’r safle i lawr i’r arfordir lle dewch o hyd i draeth Rhosgor.
Mae’r cildraeth bach tywod a cherrig crynion hwn yn berffaith i blant fynd i grwydro’r pyllau creigiau, casglu cregyn neu nofio yn y môr.
Mae’n lleoliad poblogaidd ar gyfer pysgota oddi ar y creigiau ac yn lle gwych i gaiacio.
Ond mae’n fwy na thebyg y bydd yn rhaid i chi rannu’r traeth gyda chenfaint fach o forloi llwyd sy’n cael eu gweld yn rheolaidd yn gorffwys ar y creigiau ac ar rannau o’r traeth. Maent yn hynod chwilfrydig ac ar adegau prin gellir eu gweld yn nofio ger ymdrochwyr a chaiacwyr. Mae gweddillion llongddrylliad llong stêm y Cyprian Cyprian Steamship, a suddodd wedi taro creigiau oddi ar Rhosgor ar 14 Hydref 1881 a dwyn 19 o fywydau, yn gorwedd bellter byr oddi ar y draethlin. Mae’n llongddrylliad poblogaidd i selogion deifio er nad oes llawer o’r gweddillion ar ôl heddiw.
Ar y ffordd i’r traeth byddwch hefyd yn cael mynediad i lwybr arfordir Llŷn Llŷn Coastal Path, sy’n rhedeg o amgylch morlin cyfan y Penrhyn. Mae’n ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru gyfan ac mae’n llwybr poblogaidd iawn i gerddwyr, gan gynnig golygfeydd gwych a mynediad i rai baeau a chilfachau trawiadol na ellir eu cyrraedd ond ar droed.

Rydym o fewn pellter cerdded i bentref lleol Tudweiliog, lle dewch o hyd i’r dafarn leol (Gwesty’r Llew) a siop fach/swyddfa bost. Mae Morfa Nefyn, Nefyn a Phwllheli gerllaw yn darparu mwy o ddewisiadau ar gyfer bwydydd a siopau ac maent dafliad carreg i ffwrdd o’r safle yn y car.
Food Van

Mae gennym fan fwyd yn ystod hanner tymor y gwanwyn a gwyliau’r haf, gyda chynigion blasus ar gyfer ein gwesteion sy’n cynnwys brecwast wedi’i goginio, diodydd poeth a byrbrydau.
Cyfleusterau a Rheolau'r Safle

Mae Hirdre Fawr yn cynnig rhestr eang o gyfleusterau sy’n cynnwys WiFi am ddim, toiledau, ystafelloedd ymolchi gyda chawodydd sy’n gweithio â darnau pres, dwy ystafell deuluol gydag unedau newid clytiau ac un ystafell wedi’i dynodi ar gyfer pobl anabl.
Mae’r ystafell amlbwrpas yn darparu mynediad i sinciau golchi llestri, peiriannau golchi dillad a pheiriannau sychu sy’n gweithio â darnau pres, ynghyd â’r defnydd o oergelloedd a rhewgelloedd am ddim.
Mae allfannau trydan hefyd ar gael ar gyfer gwefru eich dyfeisiau electronig.
Mae cyfleusterau sbwriel ac ailgylchu wedi’u lleoli ger yr ystafelloedd amlbwrpas.
Mae’r cae gwersylla mawr yn cynnig digon o le i blant chwarae gemau ac i fwynhau’r awyr agored gyda chae chwarae gerllaw gyda goliau pêl-droed.
Rhai Rheolau Safle:
- Rydym yn safle sy’n croesawu cŵn ond gofynnwn yn garedig i westeion gadw eu cŵn ar dennyn bob amser.
- Rydym yn safle teuluol felly gofynnir am amser tawel rhwng 11:00pm – 7:00am.
- Caniateir barbeciws ar yr amod nad ydynt yn gorwedd ar y glaswellt a’u bod wedi’u diffodd yn llwyr cyn i chi fynd i glwydo am y noson. Mae slabiau a briciau ar gael os gofynnwch.
Gwybodaeth Safle
Safleoedd: 49 + 40 safle tymhorol
Tymor:
1st Ebrill ( neu Pasg ) – 2il benwythnos Hydref
Amser Cyrraedd: ar ôl 1:00pm
Amser Gadael: cyn 11:00am
Ffioedd Safle 2026
Carafan (cynnwys ‘awning’) neu Pabell
gyda chysylltiad trydan – £35 y/n
(bydd angen blaendal bychan i sichrau eich lle)
Nodyn. Rydym ond yn derbyn archebion ar gyfer isafswm arhosiad o 7 noson yn unig am yr wythnos hanner tymor ym mis Mai a drwy gydol mis Awst.
Gwybodaeth Safle
Safleoedd: 49 + 40 safle tymhorol
Tymor:
1af Ebrill (neu Pasg) – 2il benwythnos Hydref
Amser Cyrraedd: ar ôl 1:00pm
Amser Gadael: cyn 11:00am
Ffioedd Safle 2026
Carafan (cynnwys. awning) neu Pabell
gyda chysylltiad trydan – £35 y/n
(bydd angen blaendal bychan i sicrhau eich lle).